Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 26 Ionawr 2022
Amser:
09.16 -
12.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12585
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Alun Davies AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Dyfrig Siencyn, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Jeff Smith, Cyngor Tref Aberystwyth Rhys Tudur, Cyngor Tref Nefyn Jano Williams, Cyngor Tref Casnewydd |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2. Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol:
· Mabon ap Gwynfor AS
· Carolyn Thomas AS
· Sam Rowlands AS
· Joel James AS
2 Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn dystiolaeth 3 - llywodraeth leol
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:
· Y Cynghorydd Jano Williams, Cyngor Tref Trefdraeth
· Y Cynghorydd Jeff Smith, Cyngor Tref Aberystwyth
· Y Cynghorydd Rhys Tudur, Cyngor Tref Nefyn
· Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cyd-gadeirydd Fforwm Gwledig CLlLC a Chyd-lefarydd CLlLC ar Faterion Gwledig
3 Papurau i’w nodi
3.1 Llythyr gan Gyngor Gwynedd mewn perthynas ag ail gartrefi
3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gyngor Gwynedd mewn perthynas ag ail gartrefi.
3.2 Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â'r Ddeiseb P-06-1204 Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr
3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â'r Ddeiseb P-06-1204 Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr.
3.3 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 12 Ionawr 2022
3.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 12 Ionawr 2022.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Ymchwiliad i ail gartrefi - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2
5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 - trafod yr adroddiad drafft
6.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd ar nifer o newidiadau.
7 Trafod yr ymateb i adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau
7.1. Trafododd y Pwyllgor ei ymateb i adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau.
8 Trafod y flaenraglen waith
8.1. Cytunodd y Pwyllgor i drafod y flaenraglen waith yn ei gyfarfod nesaf gan fod amser yn brin.